Cenhadaeth     Newyddion     Adnoddau     Cyswllt                        English
     
 

Y nôl

Datganiad i'r Wasg, 27/06/07

Mae Teledu Omni, y cwmni adnoddau o Gaerdydd, wedi ennill dau gytundeb mawr gan BBC Wales. Mae Omni yn is-gwmni i Grŵp Barcud Derwen, y cwmni adnoddau teledu a ffilm mwyaf y tu allan i Lundain yn y Deyrnas Unedig.

Y cytundeb cyntaf yw i ddarparu gwasanaethau Darlledu Allanol i raglenni a digwyddiadau cyffredinol BBC Cymru. Mae hyn yn cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol a Gŵyl y Faenol Bryn Terfel. BBC Cymru hefyd sydd yn gyfrifol am rai o'r digwyddiadau rhwydwaith mawr fel Cystadleuaeth Piano Leeds a Glyndebourne yn ogystal â Chystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd a gynhaliwyd yn Neuadd Dewi Sant yn gynharach y mis hwn a bydd Omni yn darparu adnoddau ar gyfer y digwyddiadau hyn am y tair blynedd nesaf.

Mae'r ail gytundeb ar gyfer yr holl rygbi cartref yng Nghymru am y tair blynedd nesaf. Mae BBC Cymru yn cynhyrchu Scrum V ar nos Wener yn ogystal â Clwb Rygbi ar gyfer S4C ar ddydd Sadwrn. Bydd Omni yn gweithio yn agos gydag adran Gweithrediadau BBC Cymru gan gyflogi cymysgedd o staff BBC Cymru, gweithwyr llawrydd a phersonél o Grŵp Barcud Derwen er mwyn cyflawni'r cytundeb.

Mae ennill y ddau tendr gyda'u gilydd yn cynrychioli'r cytundeb adnoddau teledu mwyaf a ddyfarnwyd erioed yng Nghymru.

Ar hyn o bryd mae Omni yn adeiladu Uned Ddarlledu Allanol Diffiniad Uchel gwerth £3.7 miliwn, y cyntaf o'i bath yng Nghymru, ac fe'i defnyddir yn helaeth ar gyfer y rhaglenni hyn ochr yn ochr â fflyd y grŵp o dryciau Darlledu Allanol.


Ffurfiwyd Barcud Derwen pan unwyd Barcud a Derwen ddeng mlynedd yn ôl. Sefydlwyd Barcud yn wreiddiol ar gyfer gwasanaethu'r rhaglenni oedd yn cael eu gwneud gan y sector annibynnol yng Nghymru oedd yn gweithio i S4C ac mae'n dathlu ei ben-blwydd yn 25ain eleni. Bellach mae 15 cwmni yn y grŵp yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon. Barcud Derwen sydd yn gyfrifol am y darlledu o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac mewn menter ar y cyd gyda Parthenon Entertainment mae'n dosbarthu rhaglenni S4C ledled y byd. Omni yw menter diweddaraf y grŵp ac fe'i sefydlwyd y llynedd; mae wedi ei leoli yng Nghroes Cwrlwys yng Nghaerdydd lle y mae'n rhedeg y stiwdio 7500 troedfedd sgwâr o fewn adeilad ITV Cymru, yn ogystal â darparu cyfleusterau Darlledu Allanol.


Pennaeth Omni yw Tony Cahalane sydd yn arolygu'r gwaith o adeiladu'r cerbyd Darlledu Allanol newydd. Dywedodd 'Mae'r tryc yn cael ei adeiladu gyda golwg ar waith fel hyn. Mae'n ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau mawr, cerddoriaeth a chwaraeon. Rydym eisoes yn cynllunio ail dryc i'w ychwanegu at yr un fydd gennym ar y ffordd cyn hir. Rwyf yn edrych ymlaen at ehangu ar berthynas sydd eisoes yn llwyddiannus gan weithio gyda staff cynhyrchu a gweithrediadau'r BBC.'

Dywedodd Bryn Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwri Grŵp Barcud Derwen, wrth dalu teyrnged i waith Tony Cahalane ar baratoi'r cyflwyniad lle yr enillwyd y cytundebau. 'Ers ymuno â'r cwmni mae Tony wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y cwmni yn barod ar gyfer y gwaith pan hysbysebwyd y tendrau hyn. Bydd yn wych o beth i ni weithio ar raglenni o safon mor uchel gyda'n Darlledu Allanol Diffiniad Uchel o'r radd flaenaf.'

Dywedodd David Mackie, Pennaeth Cynhyrchu BBC Cymru, 'Cynigion Omni am y ddau gytundeb oedd y gwerth gorau am arian a enillwyd wedi proses gwobrwyo trylwyr. Edrychwn ymlaen i gyd-weithio yn llwyddianus gyda'n gilydd'.

Bydd y cytundebau yn dechrau gyda darllediad BBC Cymru o'r Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug eleni.

Cysylltiad:
bryn@barcudderwen.com

Y nôl

 
     
Showreel   
  Partneriaid    
bullet 4.2.2 South bullet Eclipse Creative
bullet Aontel bullet Picardy
bullet Assembly bullet Safon
bullet Arc bullet S4C International
bullet Barcud bullet The Farm
bullet Awen bullet Omnitv
bullet Derwen bullet Burning Gold