Cenhadaeth     Newyddion     Adnoddau     Cyswllt                        English
     
 

Y nôl

Penodi Gwyn Williams yn Brif Weithredwr Barcud yng Nghaernarfon

Mae Barcud Derwen, y Cwmni adnoddau ffilm a theledu mwya tu allan i Llundain ym Mhrydain, wedi penodi Gwyn Williams yn Brif Weithredwr ei Cwmni yng Nghaernarfon. Mae Gwyn ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr o'r Cwmni cynhyrchu Cwmni Da sydd hefyd a'i swyddfeydd yng Nghaernarfon. Bydd yn dechrau yn ei swydd newydd ar Fawrth 1af.

Bydd Gwyn yn gweithio yn agos gyda Tudor Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwr Barcud a fydd yn cadw holl gyfrifoldebau am ochor technegol y Cwmni ac yn parhau ar Fwrdd Grwp Barcud Derwen.

Cyfrifoldeb penna Gwyn fydd i greu perthynas clos gyda cynhyrchwyr fyddai am ddefnyddio adnoddau Barcud Derwen ac yn enwedig i ennyn diddordeb yn gwneud y mwyaf o'r cyfleusterau sydd gan y Cwmni yng Nghaernarfon. Bydd hyn yn cynnwys creu perthynas â'r BBC yn dilyn ei symudiad arfaethiedig i Manceinion ac i chwilio am farchnadoedd newydd fydd y Cwmni yn gallu datblygu iddynt yn bennaf yn y Gogledd. Bydd yntau hefyd yn eistedd ar Fwrdd y Grwp.

Dywed Bryn Roberts, Rheolwr Gyfarfwyddwr Grwp Barcud Derwen ‘ ‘Rwy'n falch o gyhoeddi bod Gwyn Williams yn ymuno â Barcud yng Nghaernarfon. Mae hi'n gyfnod o newid yn ein diwydiant – newid cyffrous ond un lle fydd angen i gwmniau cynhyrchu ac adnoddau weithio law yn llaw. Gyda profiad Gwyn fel cynhyrchydd gallwn fod yn fwy ymwybodol o beth yw anghenion cynhyrchwyr.

Ychwanegodd Tudor Roberts, ‘Rydym wedi gweithio yn glos gyda Gwyn yn y gorffennol a fydd hi'n braf gallu cyd-ddatblygu Barcud yng Nghaernarfon ymhellach gyda Gwyn yn rhan o'r tim rheoli. Mae'r Cwmni yn 25 mlynedd oed eleni a trwy benodi Gwyn ‘rydym yn dangos arwydd o ffydd yn y diwydiant yng Ngogledd Cymru'


Mae Gwyn Williams yn edrych ymlaen i'r sialens 'Dwi di bod a parch mawr tuag at Barcud erioed' meddai. 'Roedd y cwmni yn un o gerrig sylfaen y diwydiant yng Nghaernarfon. Erbyn hyn mae angen creu partneriaethau i symud y Cwmni a'r cyfryngau, yn ystyr eanghach y gair ymlaen, i sicrhau parhad a datblygiad y diwydiant yn y Gogledd.'


Dechreuodd Gwyn ei yrfa fel ymchwilydd gyda Radio Cymru. Ar ôl cyfnod fel gohebydd a chyflwynydd llawrydd ymunodd ag Adran Newyddion BBC Cymru ym 1986. Bu'n gweithio wedyn i Hel Straeon yng Nghaernarfonrhwng 1988 a 1990 ac yna dechreuodd Gwyn ei gwmni cynhyrchu ei hun – FiTi-TiFi. Ym 1997 fe unodd y Cwmni gyda dau arall i greu Cwmni Da.

Yn ddiweddar mae Gwyn wedi bod yn gyfrifol am darllediad byw Ras yr Wyddfa yn 2005 ac wedi hynny ‘roedd yn gyfrifol am gydlynu darllediadau o Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2006.


Y nôl

 
     
Showreel   
  Partneriaid    
bullet 4.2.2 South bullet Eclipse Creative
bullet Aontel bullet Picardy
bullet Assembly bullet Safon
bullet Arc bullet S4C International
bullet Barcud bullet The Farm
bullet Awen bullet Omnitv
bullet Derwen bullet Burning Gold