| |
Y nôl
Barcud Derwen yn cytuno telerau gogyfer stiwdio ITV Wales
Mae Barcud Derwen, y cwmni teledu mwyaf y tu allan i Lundain, wedi cytuno telerau ar gyfer prydles o saith mlynedd gyda ITV Cymru i gymryd drosodd stiwdio 1 yng Nghaerdydd fel rhan o strategaeth datblygu ITV Cymru i glystyru mewn un man, cwmniau allweddol y cyfryngau yng Nghroes Cwrlwys. Pan agorwyd y stiwdio gan HTV Cymru ym 1984, dyma oedd y stiwdio annibynnol ei pherchnogaeth mwyaf yn Ewrop, ac yn 7,500 trodfedd sgwâr, mae'n parhau i fod yn un o'r mwyaf ym Mhrydain. Uchder y seiclorama yw 24ain troedfedd
Bydd y stiwdio yn cael ei redeg gan gangen Teledu Omni y cwmni a fydd yn darparu opsiwn darlledu allanol a fydd yn galluogi defnydd safonol neu Hi-Def ar gyfer cynhyrchiadau. Mae'n bosib defnyddio'r gwagle fel stiwdio pedwar wal ar gyfer defnydd un camera. Wedi'i alw'n flaenorol yn Stiwdio 1, caiff ei ail fedyddio yn Stiwdio Omni. Pennaeth Teledu Omni yw Tony Cahalane, sydd â phrofiad blaenorol yn Black & White a 021. Caiff ei gynorthwyo gan Sharon Scott a fydd yn gweithredu fel cyfarwyddwraig adnoddau. Dywed Tony "Mae hon yn stiwdio gwych o ran maint sydd â photensial enfawr. Dwi'n edrych ‘mlaen i ddenu rhaglenni o ansawdd i Groes Cwrlwys o Gymru a thu hwnt".
Yn ogystal, mae Teledu Omni yn darparu gwasanaeth darlledu allanol ar leoliad. Dywed Bryn Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwr Grwp Barcud Derwen "Dwi'n hyderus y gall Tony a Sharon wneud i'r stiwdio ganu. Mae galw mawr am stiwdio o'r maint yma yn yr ardal a mae hwn yn gyfle i gynhyrchu rhaglenni ar gyfer rhwydwaith a defnyddwyr lleol. Profa raglenni megis The X Factor, Ant and Dec's Saturday Takeaway, Strictly Come Dancing a All Star Family Fortunes fod ‘na ddadeni yn y math o gynhyrchu sydd â'i sylfaen yn y stiwido"
Dywed Elis Owen, goruchwyliwr rhaglenni a Rheolwr Gyfarwyddwr ITV Cymru "Mae'n bleser gen i groesawu Barcud Derwen i Groes Cwrlwys . Bydd Teledu Omni yn un o ddeg cwmni cyfryngol sydd wedi'u lleoli yn y ganolfan, gan wireddu ein uchelgais i glystyru'r prif weithredwyr o fewn y sector cynhyrchu yng Nghymru mewn un man er mwyn darparu'r amgylchfyd ddelfrydol i ddawn creadigol. Credaf bod amser cyffrous iawn o'n blaen wrth i'n strategaeth ddatblygu gael ei wireddu". Bydd B-Dag, sy'n gyfrifol am gangen cynhyrchu CD-Rom cwmni Barcud-Derwen, hefyd yn ail-leoli i Groes Cwrlwys ynghyd â Chyfarwyddwyr y Grwp Bryn Roberts, Stephen Cowin a Huw Edwards.
Yn ogystal, mae gan Barcud Derwen, a ffurfiwyd ym 1982, stiwdio mawr yng Nghaernarfon fel rhan o wasanaeth gwbl cynhwysfawr sy'n cynnwys unedau darlledu allanol a chanolfanau adnoddau ôl-gynhyrchu sydd â'i sylfeini yng Nghaerdydd, Glasgow, Caeredin, Briste, Llundain, Dulyn a Galway. Y cwmni yw darlledwyr lletyol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac maent yn gyd-berchnogwyr, ynghyd â Parthenon Entertainment, o Gymru Rhyngwladol – y cwmni sy'n rheoli'r trwydded cyd-gynhyrchu a dosbarthu rhaglenni S4C yn rhyngwladol.
Y nôl
|
|