|
Cenhadaeth
Cenhadaeth Barcud Derwen yw rhagori ar anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid trwy ddarparu adnoddau o'r safon uchaf ym mhob agwedd o raglenni.
Gweledigaeth
Gweledigaeth Barcud Derwen yw adeiladu ar ragoriaeth ei hadnoddau trwy groesawu datblygiadau newydd mewn technoleg, ynghyd ag ymrwymo staff medrus a phrofiadol ym mhob agwedd o ddarlledu i gynyddu ei rôl fel darparwr gwasanaeth blaenllaw.
Barcud Derwen yw'r cwmni teledu mwyaf y tu allan i Lundain (ffynhonnell: Televisual). Ffurfiwyd y cwmni o ganlyniad i gyfuno Barcud a Derwen ym 1997. Mae'r cwmni wedi ehangu'n sylweddol ers hynny a bellach mae'r grŵp yn cael ei redeg fel pedwar ar ddeg o adrannau.
|